News
Newyddion

GCSE Results
Canlyniadau TGAU

Open Letter from Conwy Secondary Heads, GCSE Results / Llythyr Agored gan Benaethiaid Uwchradd Conwy, Canlyniadau TGAU, 20/8/20

We write this joint letter as Conwy Heads to recognise the collective endeavours of all our year 11 pupils this year. We are very proud of all the hard work that our pupils have put into their GCSE studies, and their maturity, resilience and perseverance in the light of an unprecedented and unexpected year.

We are delighted with their achievements and wish them all the best in their future pathways: in 6th form, college, apprenticeships or work. We know that their experiences at our schools over the years have helped prepare them for the challenges and successes that lie ahead of them.

We would also like to recognise the hard work of our staff in preparing all our pupils and ensuring that this year’s very different assessment processes were met. We thank our parents, communities and governors for their support in ensuring the achievements and success of all our pupils.

Well done, year 11, and all the best for your future successes!

Ysgrifennwn y llythyr hwn ar y cyd fel Penaethiaid Uwchradd yng Nghonwy i gydnabod yr holl ymdrechion a llwyddiant ein disgyblion blwyddyn 11 mewn blwyddyn o newid syfrdanol i’w bywydau. Rydym yn falch iawn o’r holl waith caled aeth i’w hastudiaethau TGAU. Rydym hefyd yn llawn balchder am eu haeddfedrwydd, eu dyfalbarhad a’u gwefr yn sgil yr heriau a newid maent wedi ei wynebu eleni.

Rydym wedi ein plesio yn fawr gan eu llwyddiant a dymunwn yn dda iawn iddynt yn eu llwybrau i’r dyfodol: 6ed dosbarth, addysg bellach, prentisiaeth neu fyd gwaith. Rydym yn ffyddiog bod eu profiadau yn ein hysgolion dros y blynyddoedd wedi eu cynorthwyo i oroesi'r heriau ac i wneud y mwyaf o’u llwyddiannau i’r dyfodol.

Hoffwn hefyd gydnabod gwaith caled ein staff fuodd yn eu haddysgu gan sicrhau fod y trefniadau gwahanol iawn eleni ar gyfer asesu disgyblion wedi eu cyflawni. Diolchwn hefyd i’n rhieni, ein cymunedau a’n llywodraethwyr am eu cefnogaeth wrth sicrhau cyflawniad a llwyddiant ein holl ddisgyblion.

Da iawn chi blwyddyn 11 2020 a pob dymuniad da i’r dyfodol!

Yours sincerely / Yn gywir,

Elan Davies, Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy Head

Lee Cummings, Pennaeth Ysgol Emrys ap Iwan Head

Ian Gerrard, Pennaeth Ysgol Aberconwy Head

David Humphreys, Pennaeth Ysgol Bryn Elian Head

Trefor Jones, Pennaeth Ysgol y Creuddyn Head

Sarah Sutton, Pennaeth Ysgol Eirias Head

Anne Webb, Pennaeth Ysgol John Bright Head